A-Y o dermau meddygol
A | B | C | Ch | D | Dd | E | F | Ff | G | H | I | J | L | Ll | M | N | O | P | Ph | R | Rh | S | T | Th | U | W | Y
A
Abdomen
Y rhan o’r corff o dan yr asennau ac uwchlaw’r cluniau.
Abladiad amledd radio
Triniaeth ar gyfer canser y coluddion sydd wedi lledu i’r afu/iau. Mae’n defnyddio tonfeddi radio i drin celloedd canser ar dymheredd uchel.
Abladiad microdon
Triniaeth ar gyfer canser y coluddion sydd wedi lledu i’r afu/iau. Mae’n defnyddio gwres o egni microdon i ladd celloedd canser.
B
Biopsi
Sampl o feinwe a gymerir i wirio ar gyfer canser.
Brachytherapi
Radiotherapi mewnol sy’n defnyddio ffynhonnell ymbelydredd yn y corff am gyfnod byr o amser.
C
Capecitabin
Math o gyffur cemotherapi, a elwir hefyd yn Xeloda.
Cemotherapi
Triniaeth sy’n defnyddio cyffuriau i ladd celloedd canser.
Colon
Y darn hiraf o’r coluddyn mawr, sy’n gorffen ychydig uwchben y rectwm.
Colonoscopi
Prawf sy’n defnyddio tiwb cul hir gyda chamera ar y pen i chwilio’r tu fewn i’r colon a’r rectwm.
Colostomi
Tynnir darn o’r coluddyn mawr allan i agoriad ar eich abdomen, er mwyn i’ch baw fynd i mewn i fag.
Coluddyn mawr
Rhan o’r system dreulio sy’n cynnwys y colon a’r rectwm.
Cyfnod
Ffordd o ddisgrifio maint canser, ymhle y mae a pha mor bell y mae wedi lledu.
Cymorthyn
Triniaeth a ddefnyddir gyda neu wedi’r brif driniaeth i wella’r gobaith o reoli’r canser.
E
Endoscopi
Prawf sy’n defnyddio tiwb cul bychan gyda chamera i edrych y tu fewn i’r corff.
F
FAP
Polyposis Tyfiannol Teuluaidd (FAP). Syndrom etifeddol prin canser y coluddion sy’n cynyddu’n fawr y risg o gael canser y coluddion. Mae’n creu nifer fawr o dyfiannau (polyps) yn leinin y coluddyn.
FOLFIRI
Yr enw a roddir i gyfuniad o’r cyffuriau cemotherapi canlynol:
- asid ffolinig
- ffliworowracil (5FU)
- irinotecan
FOLFOX
Yr enw a roddir i gyfuniad o’r cyffuriau cemotherapi canlynol:
- asid ffolinig
- ffliworowracil (5FU)
- oxaliplatin
Ff
Ffliworowracil
Math o gyffur cemotherapi, a elwir hefyd yn 5FU.
G
Genynnau
Casgliad o gyfarwyddiadau sy’n rheoli sut mae’r celloedd yn eich corff yn tyfu a gweithio. Etifeddir genynnau oddi wrth eich rhieni. Maen nhw’n rheoli pethau fel lliw llygaid.
Gradd
Ffordd o ddisgrifio pa mor gyflym allai canser dyfu a lledu. Gall canser gradd isel dyfu’n arafach ac mae’n llai tebygol o ledu na chanser gradd uchel.
I
Ileostomi
Tynnir darn o’r coluddyn bychan allan i agoriad ar eich abdomen, er mwyn i’ch baw fynd i mewn i fag.
Irinotecan
Math o gyffur cemotherapi, a elwir hefyd yn Campto.
M
MAP
Polyposis MUTYH gysylltiol (MAP). Syndrom etifeddol prin canser y coluddion sy’n cynyddu’n fawr y risg o gael canser y coluddion. Mae’n creu nifer fawr o dyfiannau (polyps) yn leinin y coluddyn ac yn cynyddu’r risg o gael canser y coluddion.
MDT
Tîm amlddisgyblaethol. Y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gofalu amdanoch sy’n cyfarfod yn rheolaidd fel tîm.
MRI
Delweddu cyseinedd magnetig. Sgan sy’n defnyddio magnetau i dynnu lluniau o’r corff.
N
Neo-gymorthyn
Triniaeth a ddefnyddir cyn y brif driniaeth i wella’r gobaith o reoli’r canser.
Nodau lymff
Chwarennau bach sy’n rhan o’r system lymffatig, sy’n amddiffyn y corff rhag haint. Maent yn lle cyffredin y mae canser y colon neu’r rectwm yn lledu iddynt.
O
Oxaliplatin
Math o gyffur cemotherapi, a elwir hefyd yn Eloxatin.
P
Patholegydd
Meddyg sy’n edrych ar gelloedd o dan ficrosgop i weld pa mor normal neu annormal maen nhw’n edrych.
Pelfis
Y rhan o’r corff rhwng y cluniau.
Polyp
Tyfiant heb fod yn ganser. Gall polyps dyfu yn leinin organau’r corff, gan gynnwys y coluddyn. Gall rhai polyps ddatblygu’n ganser gydag amser.
Prawf biofarcio
Prawf sy’n chwilio am newidiadau (a elwir yn fwtaniadau) mewn grŵp o enynnau i weld pa driniaethau allai weithio a pha rai sy’n annhebyg o weithio.
R
Radiotherapi
Triniaeth sy’n defnyddio ymbelydredd egni uchel i ladd celloedd canser.
Radiotherapi mewnol dethol (SIRT)
Triniaeth ar gyfer canser y coluddion sydd wedi lledu i’r afu/iau. Mae’n golygu chwistrellu miliynau o leiniau ymbelydrol mân i mewn i’r afu/iau.
Radiotherapi stereotactig
Triniaeth ar gyfer canser y coluddion sydd wedi lledu i’r afu/iau. Mae’n defnyddio peiriant, o’r enw Cyberknife, i dargedu dognau uchel o radiotherapi i’r tyfiant, tra’n cyfyngu’r dogn i’r meinwe iach amgylchynol.
RAS
Grŵp o enynnau y gallai meddyg edrych arnynt fel rhan o brawf biofarcio. Os oes gan y canser genyn RAS normal, mae’n cael ei alw’n ‘fath gwyllt RAS’. Os yw’n annormal, mae’n cael ei alw’n ‘genyn RAS wedi mwtanu’.
Rectwm
Rhan o’r coluddyn mawr sy’n eistedd rhwng y colon a’r anws. Caiff eich baw ei storio ynddo.
S
Sgan CT
Sgan tomograffi cyfrifiadurol. Sgan sy’n defnyddio pelydrau-X i dynnu cyfres o luniau o’r corff.
Sgan PET
Tomograffi allyriad safle. Sgan sy’n defnyddio dogn isel o ymbelydredd i dynnu lluniau o’r corff cyfan.
Sgan uwchsain
Sgan sy’n defnyddio tonnau sain i adeiladu llun o’r corff.
Sigmoidoscopi
Math o endoscopi (prawf sy’n defnyddio tiwb cul hir gyda chamera ar y pen i chwilio’r tu fewn i’r rectwm a’r colon sigmoid.
Stoma
Agoriad i’r abdomen, lle y tynnir darn o’r coluddyn allan er mwyn i’ch baw fynd i mewn i fag.
Syndrom Lynch
Cyflwr genetaidd sy’n gallu cynyddu’r risg o gael canser y coluddion i fyny at 80% a gall gynyddu’r risg o gael rhai mathau eraill o ganser gan gynnwys y groth a’r ofari.
Th
Therapïau biolegol
Cyffuriau sy’n newid y ffordd y mae celloedd canser yn gweithio i’w hatal rhag tyfu. Enw arall arnynt yw therapïau wedi’u targedu.
A | B | C | Ch | D | Dd | E | F | Ff | G | H | I | J | L | Ll | M | N | O | P | Ph | R | Rh | S | T | Th | U | W | Y