Cwrs rhad ac am ddim ar gyfer staff fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru
Rydym wedi paratoi cwrs byr rhad ac am ddim ar ganser y coluddion ar gyfer staff fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru.
Bydd ein cwrs ar-lein, fydd yn cymryd dim mwy nac awr i'w gwblhau, yn helpu fferyllwyr a'u tîm i ddeall symptomau canser y coluddion, cyngor ar ei atal, pwysigrwydd cymryd rhan yn sgrinio'r coluddion, yn ogystal â ffeithiau a ffigyrau am y clefyd ac effaith COVID-19 ar wasanaethau canser y coluddion yng Nghymru.
Mae'r cwrs ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Mae croeso i staff fferyllfeydd cymunedol yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon gwblhau'r cwrs hefyd, ond mae peth o'r wybodaeth ar gyfer Cymru yn unig. Byddwch yn dal i gael tystysgrif. Rydym yn gobeithio datblygu mwy o gyrsiau fel hwn yn y dyfodol.